Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Chwefror 2020
Amser: 09.25 - 12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5965
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Mark Isherwood AC Delyth Jewell AC Caroline Jones AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Llywodraeth Cymru Christine Grimshaw, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru Simon White, Llywodraeth Cymru Nia Evans, Cynghorydd Polisi Iechyd ac Iechyd Meddwl, Comisiynydd Plant Cymru Rebecca Raikes, Llywodraeth Cymru Nia Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt Rhiannon Lewis |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AC. Dirprwyodd Jack Sargeant AC ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
· Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru
· Christine Grimshaw, Pennaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu:
· Rhestr o gyflawniadau'r Ddeddf ers y sesiwn dystiolaeth ddiwethaf ym mis Tachwedd 2018;
· Nodyn ar y dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys sut maent yn cael eu mesur, cyfrifoldeb am gyflawni, sut mae data'n cael eu casglu;
· Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, pan fydd ar gael;
· Lincs i'r pecyn cymorth i ysgolion ac i becyn cymorth y canllawiau ar-lein.
3.1.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad "Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau”.
3.2.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl deddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer craffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a chytunodd arno.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.